Mae Bwlch Cliced - hen ysgubor wedi'i adnewyddu'n chwaethus i gynnig pob cyfleuster modern (gan gynnwys twba poeth) - yn swatio yng nghefn gwlad, gyda golygfeydd eang dros yr aber a'r môr.

Bwlch Cliced, Tyhen Henllys

Hen ysgubor wedi'i adnewyddu'n llwyr i gynnig llety pedair seren yw Bwlch Clicied; mae'n rhan o fferm weithredol ar gyrion pentref Talybont, ger tref lan môr Fictoraidd Aberystwyth.

Gyda golygfeydd eang dros aber afon Dyfi a'r môr, a thros fryniau Meirionnydd, dyma'r lle delfrydol i ymlacio a mwynhau egwyl fach.

Rydym rhyw filltir o bentref Talybont, ac o fewn cyrraedd rhwydd i drefi cyfagos Aberystwyth a Machynlleth. Oddi yma, gallwch deithio i'r traethau lleol neu i lawer o fannau diddorol a deniadol.

Rydym yn awyddus i sicrhau eich bod yn mwynhau aros ym Mwlch Cliced, ac mae croeso i chi gysylltu â ni i holi unrhyw gwestiynau. Byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

Ffoniwch ni ar 01970 832027 neu anfonwch ebost gydag unrhyw ymholiad.

Mair a David

"Bwthyn hyfryd. Roedd popeth ynddo’n lân ac o safon uchel. Roedd y perchnogion yn hynod gyfeillgar, a chawsom groeso cynnes ganddynt. Golygfeydd gwych dros yr aber. Byddwn yn ei argymell i unrhyw un."

Nigel, Derby

Y Diwylliant Cymreig

Cafodd bwthyn Bwlch Cliced ei enwi ar ôl nod clust arbennig sydd, ar ddefaid ac anifeiliaid eraill, yn arwydd o berchnogaeth. Roedd y nodau hyn - ac mae yna ryw 30 ohonynt ar gyfer gwahanol ffermydd - yn bwysig iawn erstalwm yn y tirwedd mynyddig o'n cwmpas lle roedd anifeiliaid unwaith yn cael pori a chrwydro'n rhydd.

Cwblhawyd y gwaith adnewyddu ar ddiwedd 2014. Mae ein celfi, a'r gwaith celf a gomisiynwyd gan artist lleol, Ruth Jên, wedi'u seilio ar thema gwlân gan adlewyrchu hanes ein pentref lleol, Talybont, a oedd unwaith yn enwog am gynhyrchu defnydd tapestri gwlân Cymreig.

Mae'r lleoliad, yng nghanol cefn gwlad, yn gyfleus iawn ar gyfer pentref Borth a thraethau cyfagos eraill.

Talybont

Cafodd Talybont, ein pentref lleol, ei godi ar lannau afon Leri ac afon Ceulan. Yn y pentref ei hun, a'r ardal o amgylch, mae olion hen fwyngloddiau arian a phlwm, a hen felinau gwlân.

Er bod arian a phlwm wedi'i fwyngloddio yn yr ardal ers cyfnod y Rhufeiniaid, yn y G19 y gwelwyd y datblygiadau mwyaf dramatig; dyna pryd yr adeiladwyd nifer o'r rhesi tai a welir yn y pentref, i gartrefu'r cannoedd a symudodd i'r ardal i weithio yn y ffatrïoedd gwlân a'r mwynfeydd.

Mae yna siop Spar yn y pentref lle gallwch brynu bwyd a nwyddau angenrheidiol; yn ogystal mae yna fferyllfa a gorsaf betrol.

Menter gymunedol yw Siop Cynfelyn, rhyw ddwy filltir i'r gogledd o Dalybont; mae'n hyrwyddo diwylliant Cymreig yr ardal ac yn gwerthu nwyddau sylfaenol megis bara, llaeth a phapurau newydd. Mae eu caffi'n gwerthu cacennau cartref a choffi blasus ac, wrth gwrs, yn cynnig croeso cynnes, Cymreig.

Mae Talybont tua hanner ffordd rhwng trefi Aberystwyth a Machynlleth, ac mewn safle delfrydol i gyrraedd pentref glan môr y Borth a thraethau eraill cyfagos. Ym mhentref Bow Street mae siop Spar ychydig mwy o faint, a cheir dewis eang o siopau yn Aberystwyth.

"Arhosais yn Bwlch Cliced am benwythnos hir yn ddiweddar. Roedd y lleoliad a’r golygfeydd yn wych. Cawsom groeso cynnes wrth gyrraedd, gyda phaned o de a chacennau cartref, a bwyd ar gyfer brecwast y bore wedyn. Roedd y bwthyn yn ardderchog – wedi’i ddodrefnu i safon uchel, yn lân a chynnes, ac yn cynnig golygfeydd diguro."

Sharon, Barnsley

O'n Cwmpas

Mae Bwlch Cliced wedi'i ddodrefnu'n fodern ar gyfer 4 person, gydag ystafell wely ddwbl ac ystafell ac iddi ddau wely sengl, a llawr gwaelod ar gynllun agored. Byddwch yn derbyn croeso cynnes gyda phaned o de a chacennau cartref.

  • Lle i bedwar person
  • Un ystafell wely ddwbl ac un gyda dau wely sengl
  • Llawr teils gyda gwresogi tanlawr
  • Golygfa o'r môr
  • Maes parcio
  • Cegin yn cynnwys pob cyfleuster
  • Ystafell iwtiliti
  • Peiriant golchi llestri
  • Peiriant golchi dillad
  • Cawod bŵer
  • Bwrdd smwddio a haearn
  • Cwrt wedi'i amgylchynu â ffens
  • Barbeciw
  • WiFi
  • Teclyn 'Sony Playstation' a gêmau
  • Teledu LCD mawr, a Freesat
  • Lleolir yng nghefn gwlad
  • Milltir o dafarndai a bwytai
  • Croeso i gŵn
  • Croeso i blant
  • Còt babi ar gael
  • Cadair uchel ar gael
  • Gât ar y staer
  • Gwres canolog Eco Biomass
  • Twba poeth

Rydym wedi ceisio meddwl am bopeth y bydd arnoch ei angen! Os oes unrhyw beth arall yr hoffech i ni ei ddarparu, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Mae yna dafarndai a bwytai da o fewn milltir i'r bwthyn.

Y Golygfeydd

Mae Blwch Cliced yn swatio ar ochr bryn yng nghanol tirwedd hyfryd cefn gwlad. O'r bwthyn ceir golygfeydd ysblennydd am filltiroedd o'ch cwmpas.

Mae golygfeydd hyfryd o'r arfordir, y mynyddoedd a chefn gwlad i'w gweld o'r bwthyn. Ar ddiwrnod clir gallwch weld Ynys Enlli a Phenrhyn Llŷn, ac wrth ymlacio ar y patio gallwch weld am dros 30 milltir, o draeth a phentref Aberdyfi ar hyd yr aber at gopa Cadair Idris, llethrau bryniau Meirionnydd a thu hwnt.

Golygfeydd hyfryd o'r môr, mynyddoedd a chefn gwlad.

Adolygiadau

  • Trefnu Lle

    Ewch i Gorau o Gymru

    neu gysylltu â ni'n uniongyrchol
    01970 832027
    [email protected]

    Beth i'w wneud

    Wedi'i leoli yn y bryniau, yn agos at lan y môr, ac yn cynnig llety pedair seren.

    Dod o hyd i ni

    Mae Bwlch Cliced ychydig dan filltir o bentref Talybont.

    Ein cyfeiriad yw:

    Tyhen Henllys, Talybont, Ceredigion, SY24 5EQ

    Ffôn: 01970 832027

    O Aberystwyth

    Cymerwch yr A487 o Aberystwyth i Dalybont (7 milltir). Gan fynd heibio i ddwy dafarn ar y Patshyn Glas yng ngwaelod y pentref, cariwch ymlaen heibio'r orsaf betrol a chymryd y tro 1af i'r chwith ar hyd lôn gul (gyferbyn â'r ciosg ffôn). Ewch yn eich blaen ac allan o'r pentref gan fynd heibio i fynedfa'r goedwig ar y chwith, ac yna'r tŷ ar y chwith. Yn syth ar ôl y tŷ fe welwch yr arwydd i 'Tyhen Henllys' ar waelod y lôn sy'n arwain at 'Bwlch Cliced'.

    O Fachynlleth

    Cymerwch yr A487 o Fachynlleth i Dalybont (11 milltir). Wrth ddod i mewn i bentref Talybont, ewch heibio i stad o dai ar y dde - yna cymerwch y tro cyntaf i'r dde. Ewch ymlaen ar hyd y lôn hon, gan fynd heibio'r cae chwarae i blant ar y chwith, a theithio - gan gadw i'r dde - allan o'r pentref am ryw hanner milltir. Byddwch yn mynd heibio i fynedfa'r goedwig ar y chwith, ac yna heibio'r tŷ ar y chwith. Yn syth ar ôl pasio'r tŷ fe welwch yr arwydd i 'Tyhen Henllys' ar waelod y lôn sy'n arwain at 'Bwlch Cliced'.

    Peidiwch â rhoi'r cod post yn eich teclyn satnav - bydd yn mynd â chi i'r Borth, nid i Dalybont!